Hafan

ACGC (Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru)

 

Mae ACGC yn rheoli a chynnal y rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Nod ACGC yw:

“Darparu rhwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy yng ngogledd Cymru mewn ffordd effeithiol.”

 

Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am ACGC a’i weithrediadau a bydd o gymorth i’r cyhoedd sy’n teithio gan defnyddio rhwydwaith cefnffyrdd gogledd Cymru.

 

Fel un o’r tair asiantaeth Cefnffyrdd yng Nghymru, mae’n gweithredu ar sail Partneriaeth rhwng chwe Awdurdod Unedig Gogledd Cymru, gyda Chyngor Gwynedd yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol.